Lleoliad:
Committee Room 5 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Llun, 20 Gorffennaf 2020
Amser:
13.30 -
16.20
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6424
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
John Griffiths AS (Cadeirydd) Dawn Bowden AS Huw Irranca-Davies AS Delyth Jewell AS David Melding AS |
Tystion: |
Julie James AS, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Simon White, Llywodraeth Cymru Emma Williams, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Catherine Hunt (Ail Glerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) Hannah Johnson (Ymchwilydd) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) Manon Huws (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1. Croesawodd
y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cydraddoldeb,
Llywodraeth Leol a Chymunedau.
1.2. Yn unol
â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd iddo bennu na
allai’r cyhoedd fod yn bresennol yng nghyfarfod y Pwyllgor,
er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd.
1.3. Dywedodd y
Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai'n gadael y cyfarfod am
ryw reswm, y byddai Dawn Bowden AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol
â Rheol Sefydlog 17.22.
1.4. Dirprwyodd David Melding AS ar ran Mark Isherwood AS yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.
2 Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru): sesiwn dystiolaeth 6
2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Julie James AS, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
· Emma Williams, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru
· Simon White, Pennaeth Strategaeth Tai a Deddfwriaeth, Llywodraeth Cymru
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o'r cyfarfod ar 14 Medi 2020
3.1. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
4 Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law a thrafod y materion allweddol
4.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2, ac ystyried a chytuno ar y materion allweddol.
5 Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith ar faterion sy'n ymwneud â chylch gwaith y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Trafod y materion allweddol mewn perthynas ag adroddiad COVID-19 a chydraddoldeb
5.1. Bu'r Pwyllgor yn ystyried y materion allweddol ar gyfer adroddiad ynghylch COVID-19 a chydraddoldeb a chytunodd ar y materion hynny.